Her Fenter Colegau Cymru 2009
Bu tim o Safle Dolgellau yn cynrychioli Coleg Meirion-Dwyfor yn rownd derfynol Her Fenter Colegau Cymru a gynhyliwyd yng Nghaerdydd. Aelodau'r tim oedd Jade Roberts, Kerry Courtney, Danny Page, Gwen Jones, Samantha Mcevoy a Hannah Cook. Roedd 22 o dimau yn cystadlu o bob cwr o Gymru.
Yr her oedd creu cynnyrch neu wasanaeth a fyddai'n cynorthwyo cwmniau a'u gweithwyr cyflog i leiheu eu hôl troed carbon. Syniad tim Coleg Meirion-Dwyfor oedd creu cwmni "Under Pressure" a fyddai'n gwirio bod pwysedd aer teiars ceir a loriau yn gywir gan fod hyn yn arbed tanwydd. Mae angen gwirio'r pwysedd bob pythefnos. Enillwyd y gystadleuaeth eleni gan Goleg Sir Gar a nhw fydd yn cynrychioli colegau Cymru yn y rownd derfynol yn Glasgow.
Llongyfarchiadau i dim Dolgellau am wneud gwaith mor dda.
Mae copi o'r sleidiau y gwnaeth y tim eu cynhyrchu ar gyfer y rownd fewnol wedi eu gosod ar y wefan hon. Yr her bryd hynny oedd creu cynnyrch neu wasanaeth a fyddai o fudd i bobl ieuainc eu cymuned. Y syniad buddugol oedd agor bar di-alcohol yn Nolgellau.
